Dymphna Cusack
|dateformat=dmy}}Awdures o Awstralia oedd Dymphna Cusack (22 Medi 1902 – 19 Hydref 1981) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur, dramodydd, cofiannydd a nofelydd.
Ganwyd Dymphna Cusack yn Wyalong, New South Wales. Roedd ei brawd, John hefyd yn awdur a chyhoeddodd y nofel, ''They Hosed Them'' o dan y ffugenw John Beede yn 1965. Chwaraeodd Cusack ran allweddol yn hyrwyddo traddodiadau democrataidd, blaengar ei hoff wlad, ac roedd yn boblogaidd iawn fel siaradwraig yn Awstralia ac fel sylwebydd diwylliannol yn ystod y cyfnodau hir y bu'n aros yn Ewrop o'r 1940au i'r 1970au.
Graddiodd Dymphna Cusack yn y Celfyddydau o Brifysgol Sydney ac yno hefyd yr enillodd ddiploma mewn addysg. Bu'n gweithio fel athrawes hyd nes iddi ymddeol yn 1944 oherwydd rhesymau iechyd. Ysgrifennodd Cusack ddeuddeg o nofelau ac un-ar-ddeg o ddramau; cafodd ei nofel ''Come in Spinner'' ei chynhyrchu fel cyfres deledu gan Gorfforaeth Ddarlledu Awstralia yn 1989, ac fe'i darlledwyd ym mis Mawrth 1990. A hithau'n frwd dros ddiwygio cymdeithasol roedd disgrifio'r angen am ddiwygio yn nodwedd gyffredin yn ei gweithiau. Derbyniodd gydnabyddiaeth ''Member of the Order of Australia'' yn 1961 am ei chyfraniad i lenyddiaeth Awstralia. Roedd hefyd ymhlith yr awduron a sefydlodd yr ''Australian Society of Authors'' yn 1963, ac ymhlith yr un-ar-ddeg o awduron, yn cynnwys Elizabeth Jolley a Manning Clarke i gael eu cydnabod gyda phlac pres ar Rodfa'r Awduron yn Sydney. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12
-
13
-
14
-
15
-
16
-
17
-
18
-
19
-
20