Otto Bayer
Gwyddonydd o'r Almaen oedd Otto Bayer (4 Tachwedd 1902 – 1 Awst 1982) Roedd yn gemegydd diwydiannol yng nghwmni enwog IG Farben. Ef oedd pennaeth y uned ymchwil a ddarganfyddodd y polyaddition yn 1937 ar gyfer synthesis polywrethannau allan o poly-isocyanate a polyol.Ganwyd Bayer yn Frankfurt. Derbyniodd ddoethuriaeth mewn Gemeg ym Mhrifysgol Frankfurt-am-Main yn 1924. O 1933 bu'n gweithio mewn amrywiol swyddogaethau rheoli mewn sefydliadau'r IG Farbenindustrie. Doedd dim perthynas thwng Dr Bayer a'r teulu a sefydlodd y Bayer Corp.
Roedd yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr cwmni Bayer a hefyd yn is-gadeirydd bwrdd goruchwiliol cwmni Cassella yn yr 1950au. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3